Meddygfa Bala

Bala Health Centre, Hafan, Bala, Gwynedd, LL23 7BA

Clinig & Gwasanaethau

Practice Nurse or Health Care Assistant

Regular specific clinics are held by the Practice Nurse for which you will be invited if you suffer a chronic illness.

Routine cervical smears are offered with the nurse every 3 years.

Mân Lawfeddygaeth

Darperir cyfleusterau Mân Lawfeddygaeth gan y pedwar meddyg trwy drefniant ymlaen llaw gyda’r meddyg unigol.

Ffisiotherapi

Rydym yn ffodus fod gennym adran ffisiotherapi ag offer yn y Ganolfan Iechyd a ddefnyddir i gynnig triniaeth i gleifion a atgyfeirir gan Y Meddygon teulu neu ffeddygon ysbytai.

Clinig Iechyd Plant ac Imiwneiddio

Cynhelir gan yr Ymwelydd Iechyd, Nyrs y Feddygfa a’r Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd pob pnawn dydd Iau rhwng 2-4 o’r gloch. Cysylltwch a’r 520 542.

Clinig y Frest

Cynhelir unwaith y mis yn y Ganolfan Iechyd gan Dr Kelly Arbennigwr Resbiradol Ysbyty’r Maelor.

Clinig Orthopaedeg

Mae Mr Graham, Ymgynghorydd Orthopaedig o Gobowen yn Ymweld a’r feddygfa unwaith bob  mis.

Sesiynau Cynghori

Cynhelir yn y Feddygfa’n wythnosol a gellir eu trefnu gan y Meddyg.

Mynediad i’r Anabl

Mae mynediad addas iawn i’r Anabl yn y brif feddygfa.Mae’r Ganolfan wedi ei haddasu’n dda ar gyfer yr anabl.

Optegydd-Schwarz

Cynhelir pob dydd Mawrth. Rhaid ffonio 01978 316 777 I wneud apwyntiad.