Meddygfa Bala

Bala Health Centre, Hafan, Bala, Gwynedd, LL23 7BA

Information

Surgery Appointments

The surgery is open between 8:00am and 6.30pm. All surgeries are held by appointment. To make an appointment please ring 01678 520 308 during the above hours. Alternatively, you can use the “Book appointment online” button on the homepage.

We are also a Yellow Fever Centre, to arrange a vaccination, please book an appointment with the Practice Nurse.

Gofal Allan o Oriau

Rhwng 6.30pm ac 8.00am ar ddyddiau’r wythnos a’r penwythnos cyfan rhwng 6.30pm nos Wener ac 8.00am ar fore dydd Llun ac yn ystod Gŵyl y Banc, bydd y feddygfa ynghau. Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd fydd yn gyfrifol am eich gofal yn ystod y cyfnodau hyn. Os byddwch angen gofal meddygol brys yn ystod yr amser yma, gallwch ffonio 01678 520308 fel arfer a bydd eich galwad yn trosglwyddo’n awtomatig heb gost ychwanegol. Bydd nyrs hyfforddedig yn derbyn manylion gennych ac efallai y rhoddir cyngor dros y ffôn neu gofynnir i chi fynd i ganolfan driniaeth yn Nolgellau. Efallai y cynghorir chi i fynd i Adran D&A neu trefnir i Ambiwlans fynd â chi i’r Ysbyty. Os bydd y Meddyg ar ddyletswydd yn meddwl y gellir gwarantu’n glinigol, mae’n bosibl y trefnir ymweliad â’r cartref.

Ail Presgripsiynau

Gall unigolion sydd yn derbyn meddyginiaeth rheolaidd eu harchebu dros y ffon, drwy’r post, drwy fynychu’r feddygfa neu drwy ddefnyddio botwm “Ail archebu moddion” sydd ar y dudalen hafan.

Ymweliadau â’r Cartref

Rydym yn hapus i ymweld â’r cartref os ydych yn rhy sâl i deithio i’r Feddygfa, ond os gallwch ddod i’r Feddygfa yna gwnewch hynny os gwelwch yn dda. Dylid gofyn am ymweliadau cyn 11.00am pan fydd hynny’n bosibl. Byddwch yn barod i roi enw a chyfeiriad y claf, gyda chyfarwyddiadau os bydd angen a’ch rhif ffôn. Rhowch reswm dros y cais fel y gall y meddyg benderfynu a yw’n argyfwng. Mae’n bosibl y bydd y meddyg yn dymuno dychwelyd eich galwad i drafod y broblem gyda chi.

Mewn Argyfwng

Gellir gwneud galwadau brys trwy ffonio rhif y Feddygfa 01678 520308 ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Yn ystod oriau gwaith y feddygfa, gall staff y feddygfa gysylltu â’r Meddyg ar Ddyletswydd ar ei ffôn symudol.

Os bydd eich galwad ar gyfer argyfwng, ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans.

Technoleg Gwybodaeth

Mae’r Feddygfa’n gwneud defnydd sylweddol o gyfrifiaduron a byddwch yn sylwi ar fonitor ym mhob ystafell ymgynghori. Defnyddir y cyfrifiaduron i gofnodi eich manylion meddygol fel y cofnodion ar bapur a hefyd i gael gwybodaeth feddygol arall, Taflenni Gwybodaeth i Gleifion i helpu gyda manylion cofrestru ac ail-bresgripsiynau. Mae’r Feddygfa wedi cofrestru o dan y Ddeddf Amddiffyn Data ac mae pob dim yn gwbl gyfrinachol. Ni all yr un asiantaeth allanol weld eich gwybodaeth feddygol bersonol ar y cyfrifiadur.

Mae peiriant newydd yn y Feddygfa,sydd wedi ei leoli ar y wal ger y drws ffrynt, I gleifion gofrestru ei bod wedi cyrraedd I apwyntiad gyda’r meddyg a/neu nyrs.

Patient Confidentiality

We respect your right to privacy and keep all your health information confidential and secure. This information is only available to those involved in your care. You have a right to know what information we hold about you and if you would like to see your records please contact reception.

Arrival System

There is a touch- screen computer near the front door for patients to record that they have arrived for an appointment with the Doctor or Practice Nurse. Please make use of this facility, as it informs the Doctor/Nurse that you have arrived, and will also give you an indication as to how long you have to wait.

Awgrymiadau a’r Cwynion

Croesewir unrhyw sylwadau neu awgrymiadau sydd gennych ynglŷn â gwaith y feddygfa a byddant yn cael eu trin yn gyfrinachol. Os bydd gennych gwyn neu awgrym, gallwch gysylltu â Rheolwr y Feddygfa neu un o’r Meddygon trwy’r post neu’n bersonol.

Mae gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol bersonel yng Nghaernarfon yn delio gyda cwynion ynglyn ar Feddygfa, Rhiannon Graham-01286 672451.